Thumbnail for IATEFL2026 - diwrnod 3: y broblem efo rhag-ddysgu geirfa by Galés con Marian • Welsh with Marian

IATEFL2026 - diwrnod 3: y broblem efo rhag-ddysgu geirfa

Galés con Marian • Welsh with Marian

2m 58s433 words~3 min read
Auto-Generated

[0:00]Ok dwi'n ista tu allan i fy ngwesty. Dyma lle dwi'n aros. Fues i ddim llawa o sesiynau heddiw, achos on eisiau gweithio. Ond mi es i ddwy sesiwn, ac oedden sesiwn yn sôn am paratoi dysgwr ar gyfer gwaith gwrando. Oedd y pwyslais ar beidio rhoi geirfa, rhestr geirfa, cyn gwneud gwaith gwrando. So cwestiwn y sgwrs oedd, ydan ni angen rhoi rhestr geirfa i ddysgwr cyn nedd gwaith gwrando. Ei hateb hi mewn ffordd yn y sgwrs yma oedd, nag ydan achos be sy'n digwydd pan ti'n rhoi rhestr geirfa i ddysgwr cyn gwneud gwaith gwrando ydy, mae'r dysgwr yn mynd i ganolbwyntio'r geiriau yna. Mae eu hymenydd nhw'n mynd i chwilio am y geiriau yna yn y darn gwrando. A beth ti isio fath o activatio yn ymennydd dysgwr, neu dwi'n cyfri fy hun fel dysgwr iaith hefyd. Be ti isio activatio ydy'r chwilfrydedd yna a dy gyfrifoldeb dy hun i feddwl be ydy'r math o eiriau dwi'n mynd i glywed yn y darn yma. So yn hytrach na rhoi rhestr geirfa, be ddylen ni neud? A dwi'n cytuno efo'r syniad yma ydy, cyn gwaith gwrando, so ti'n dangos teitl y fideo a hella llun, a wedyn cael sgwrs efo'r dysgwyr neu sgwrsio mewn grwp neu efo par, neu efo partner neu beth bynnag. Be mae'r teitl yn olgu? Be ydy'r eirfa yn y teitl? Am be mae hwnna'n gwneud i chi feddwl? Am be da chi'n meddwl fydd y fideo yma? A mae hwnna'n activatio y rhannau o'ch ymennydd chi sy'n mynd i chwilio am themau a geirfa eich hun i glywed yn y fideo neu yn y darn gwrando. Mae hwnna'n lot mwy effeithiol ac yn paratoi dysgwr lot gwell ar gyfer bod go iawn nag ydy rhestr o eirfa. Achos mewn bywyd go iawn, ti'm yn gallu mynd i'r banc a mynd â rhestr geirfa efo chdi neu mynd i'r becws a mynd â rhestr geirfa efo chdi. Ond be ti'n medru ei wneud ydy pan ti'n mynd i sioe neu pan ti'n mynd i'r theatr neu pan ti'n mynd i siop, ti'n medru ymfer meddwl o flaen llaw, OK, dyma'r math o le dwi'n mynd iddo fo. Pa fath o eirfa neu pa fath o gwestiynau dwi'n debygol o glywed neu ddod ar ei draws. Dwi'n meddwl ar ôl gwrando dwi'n meddwl bod o'n syniad da pigo allan geirfa ar ôl gwrando. Ond cyn, dwi'n meddwl na angen tanio'r y chwilfrydedd, y sgils rhagweld yna. Mae hynna'n bwysicach. Dwi'n meddwl ddylai'n ni wneud lot mwy o bethau fel efo dysgwyr yn hytrach na paratoi'n rhestr geirfa.

Need another transcript?

Paste any YouTube URL to get a clean transcript in seconds.

Get a Transcript